Ydych chi'n chwilio am diwtor neu sesiwn grŵp?
Cliciwch ar y botwm 'Cofrestrwch eich diddordeb' uchod i ddod o hyd i'ch tiwtor 1 i 1 perffaith.
Mae nifer o grŵpiau nawr ar agor i fwcio, gan gynnwys Gwyddoniaeth a Maths lefel A a TGAU.
Bydd mwy o bynciau i ddilyn yn fuan.
1-1 Gwersi Ar-lein
Unwaith y byddwch wedi dewis eich tiwtor dymunol anfonwch neges atom trwy glicio ar y cyswllt a llenwch ein ffurflen ymholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r pwnc, y lefel a'r tiwtor a ddymunir. Os ydych yn ansicr am pa diwtor gallwn eich arwain i diwtor briodol i gwrdd â'ch anghenion.
Pwy yw Apex AC?
Ann Ivey - Cyfarwyddwraig
Mae Ann yn Bennaeth Bioleg a chyn-arolygwraig gyda dros 25 mlynedd o brofiad fel athrawes. Mae hi'n dysgu Bioleg, Cemeg a Ffiseg i ddysgwyr TGAU a ChA3, ac mae hi'n arbenigo mewn Bioleg lefel-A.
Wedi teithio llawer drwy De America, yn cynnwys i'r Amazon ac i ynysoedd y Galapagos, a thrwy ei chefndir amaethyddol, mae ganddi brofiad bywyd go iawn sydd i'w weld yn ei holl gwersi.
Ein Stori
Profiad a Rhagoriaeth.
Ni yw Ann a Catrina, dwy addysgwraig angerddol a phrofiadol gyda gweledigaeth gyffredin; i wneud tiwtora safon-uchel yn hygyrch ac yn fforddiadwy i fyfyrwyr Cymru. Gyda phrofiad o dros 30 mlynedd o addysgu rhyngom, rydym wedi gweld dros ein hunain bŵer trawsnewidiol addysg ar-lein a’r effaith gall ei chael ar berfformiad myfyrwyr.
Drwy gydol ein gyrfaoedd, rydym wedi gweld yr heriau a wynebir gan fyfyrwyr sy'n cael trafferth cadw i fyny â chyflymder dysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth, boed hynny oherwydd anghenion dysgu penodol, diffyg adnoddau, neu rwystrau eraill.
Wedi’n hysgogi gan awydd i wneud gwahaniaeth, gychwynnom ar daith i bontio’r bwlch hwn drwy sefydlu gwasanaeth tiwtora ar-lein wedi’i deilwra’n benodol i anghenion myfyrwyr Cymru.
Ond mae ein hymrwymiad i hygyrchedd yn mynd y tu hwnt i diwtora o safon yn unig. Credwn fod pob myfyriwr, waeth beth fo'i gefndir neu ei fodd ariannol, yn haeddu mynediad at yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Dyna pam yr ydym wedi gwneud fforddiadwyedd yn gonglfaen i'n gwasanaeth.
Megis dechrau mae ein taith, ond mae ein hangerdd am addysg ac ymrwymiad i’n myfyrwyr yn parhau’n ddiwyro. Gyda’n gilydd, rydym am lunio dyfodol addysg yng Nghymru, un wers ar y tro. Ymunwch â ni ar yr antur gyffrous, a gyda'n gilydd, gadewch i ni ddatgloi potensial pob myfyriwr.


